Nasser Muthana yn fideo Isis
Mae’r Gweinidog Cymunedau, Jeff Cuthbert, wedi dweud fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi ac yn barod i wrando ar gymunedau Mwslimaidd yn ystod cyfnodau anodd.

Wrth siarad mewn digwyddiad elusennol yng Nghaerdydd, roedd Jeff Cuthbert yn cyfeirio’n benodol at dri dyn o Gaerdydd sy’n cael eu hamau o ymuno â mudiad Islamaidd eithafol Isis yn Syria.

Ymddangosodd Reyaad Khan a Nasser Muthana mewn fideo a gafodd ei ryddhau gan Isis, lle’r oedd y ddau yn dweud eu bod yn barod i farw dros yr achos.

Credir bod  brawd iau Nasser Muthana, Aseel, 17, hefyd yn ymladd yn Syria.

Cymuned

Dywedodd Jeff Cuthbert: “Mae pawb sydd yma heddiw yn ymwybodol o’r sefyllfa ddiweddar yng Nghaerdydd a’r fideo lle ymddangosodd dynion ifanc o’n cymuned ynddo. Mae pryderon amlwg ac rwy’n siŵr ein bod yn cydymdeimlo gyda theuluoedd y bechgyn.

“Mae Cymru fodern yn wlad sydd wedi ei hadeiladu gan gymunedau amlddiwylliannol gyda phobol o lu o gefndiroedd gwahanol.

“Rwy’n credu’n gryf mai dyma sy’n gwneud Cymru yn wlad mor fywiog ac rwy’n falch o ddathlu ein diwylliannau amrywiol a’n cymuned Fwslimaidd sy’n rhan annatod o’n hanes.”