Y Costa Concordia
Mae ymdrech i godi llong ddrylliad y Costa Concordia o’r dŵr yn cychwyn heddiw.

Mae hi bron i ddwy flynedd a hanner ers i 32 o bobol farw pan darodd y llong bleser yn erbyn creigiau a throi drosodd ger ynys Giglio yn yr Eidal.

Mae’r ymdrech i godi’r llong wedi dechrau ac mae disgwyl iddo bara chwech neu saith diwrnod. Bydd  gweddillion y llong yn cael eu symud i Genoa ac yn cael eu troi’n sgrap.

Mae’r Capten Francesco Schettino wedi’i gyhuddo o ddynladdiad, achosi llongddrylliad a gadael y llong cyn i’r teithwyr adael. Mae’n gwadu’r cyhuddiadau.