Yr ysgrifennydd busnes, Vince Cable
Bydd cwmnïau tramor sy’n prynu busnesau Prydeinig yn cael eu taro â dirwyon anferth os byddan nhw’n torri addewidion i ddiogelu swyddi.

Dywed yr Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, y bydd unrhyw addewidion o’r fath sy’n cael eu gwneud mewn trafodaethau yn gosod ymrwymiadau cyfreithol ar gwmnïau.

“Dw i eisiau sicrhau bod modd taro cwmnïau’n galed gyda chosbau ariannol lle nad yw ymrwymiadau’n cael eu hanrhydeddu,” meddai.

Mae ei sylwadau’n dilyn pryderon ynghylch ymgais – aflwyddiannus yn y pen draw – y cwmni fferyllol anferth o America, Pfizer, i gymryd drosodd AstraZaneca.

Yn ogystal ag amheuon ynghylch yr addewidion i ddiogelu swyddi roedd pryderon am golli gwaith ymchwil a datblygu gan gwmnïau Prydeinig.Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y TUC, Frances O’Grady, ei bod hi’n croesawu cyhoeddiad Vince Cable fel cam i’r cyfeiriad iawn.