Mae prisiau tai yn parhau i godi yn ôl un o gwmni morgeisi mwyaf Prydain, Halifax.

Dywed y cwmni fod prisiau wedi codi yn flynyddol o 8.8% ym mis Mehefin, sydd 0.1% yn fwy ‘na mis Mai.

Mae’n  golygu bod pris tŷ ym Mhrydain ar gyfartaledd bellach yn £183,462.

Er hyn, mae tystiolaeth fod y cynnydd yn arafu, wrth i’r cynnydd misol ddisgyn o 0.6% – y pedwerydd mis i brisiau tai ddisgyn ers y Nadolig.

Dywedodd cyfarwyddwr morgeisi Halifax, Stephen Noakes: “Mae’r galw am dai yn parhau i gael ei gefnogi  gan adferiad yn yr economi, sydd hefyd yn gweld hyder y prynwyr yn codi.”