Y Farwnes Butler-Sloss
Mae’r Farwnes Butler-Sloss wedi gwrthod ymddiswyddo o ymchwiliad i honiadau o gelu cyhuddiadau o droseddau rhyw.
Mae pwysau ar y Farwnes yn cynyddu yn dilyn adroddiadau bod ei brawd, Syr Michael Havers wedi ceisio atal y cyn-Aelod Seneddol Geoffrey Dickens rhag cyhoeddi amheuon bod diplomat blaenllaw yn y Senedd yn yr 1980au yn gysylltiedig â phedoffilia.
Yn ôl adroddiadau, roedd Syr Michael Havers wedi cael ffrae â Geoffrey Dickens yn ystod y 1980au yn y gobaith o geisio’i atal rhag manteisio ar ei hawl i enwi’r diplomat Syr Peter Hayman fel pedoffeil.
Dywed y Farwnes Butler-Sloss nad yw hi’n ymwybodol o’r adroddiadau ac mae’r Swyddfa Gartref wedi amddiffyn ei phenodiad.
Mae beirniaid yn dweud ei bod hi’n rhy agos at yr achos i allu arwain ymchwiliad annibynnol.
Un o’r rheiny yw’r Aelod Seneddol Llafur, Simon Danczuk.
Dywedodd: “Mae hi’n rhan o’r sefydliad ac mae hynny’n destun pryder ac mae’r cyswllt yn nhermau ei brawd, rwy’n credu, yn rhy agos o lawer i fod yn un cyfforddus.
“Dyna, rwy’n credu, fydd casgliad y mwyafrif o bobol.”
Galwodd ar Lywodraeth Prydain i ail-ystyried y penodiad gan ddweud ei fod yn “syfrdan” na chafodd y berthynas ei hystyried yn y lle cyntaf.
Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Dethol Iechyd, Sarah Wollaston nad yw hi’n cwestiynu hygrededd y Farwnes Butler-Sloss ond awgrymodd ei bod yn “anodd gweld pam fyddai’r Farwnes Butler-Sloss am dderbyn rôl y mae cynifer yn ei ystyried yn un sy’n achosi gwrthdaro o’r cychwyn cyntaf”.