Mae Prif Weinidog Cymru wedi croesawu penderfyniad y Goruchaf Lys i roi’r pŵer i’r Cynulliad osod isafswm cyflog ac amodau gwaith i weithwyr y sector amaethyddol.
Daw’r penderfyniad er bod Twrnai Cyffredinol y DU, Dominic Grieve, wedi honni nad oedd gan y Cynulliad Cenedlaethol ddigon o bŵer i ddeddfu yn y maes.
Ond daeth y Goruchaf Lys i’r casgliad unfrydol mai’r Cynulliad ddylai fod a’r gair olaf am gyflogau ac amodau gwaith i weithwyr amaethyddol.
Mae’n golygu y bydd y ddeddf yn gwarchod y gweithwyr amaethyddol sydd ar y cyflogau isaf yng Nghymru, ar ôl i Lywodraeth Prydain ddod a’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol – oedd yn gosod lefelau tâl yng Nghymru a Lloegr – i ben.
Er ei fod wedi croesawu penderfyniad yr Uchel Lys, mae Carwyn Jones yn rhybuddio fod yr achos yn dangos yr angen i adolygu’r broses ddeddfwriaethol er mwyn rhoi mwy o sefydlogrwydd i ddatganoli.
‘Angen newid y setliad datganoli’
Dyma’r ail dro mewn llai na dwy flynedd i’r Goruchaf Lys ddyfarnu yn unfrydol o blaid y Cynulliad, wedi i ddeddf arall oedd yn newid y ffordd y mae cynghorau yn gwneud deddfau lleol gael ei basio.
Yn ôl Carwyn Jones, mae angen newid y setliad datganoli i’w wneud yn gliriach pa bwerau sy’n berchen i ba ddeddfwriaeth:
“Mae hwn yn ddyfarniad pwysig gan y Goruchaf Lys sy’n mynd peth ffordd i egluro cymhlethdod y setliad datganoli presennol.
“Hwn yw’r ail benderfyniad unfryd o’n plaid ac mae’n gyfiawnhad clir o’r ffordd mae’n pwerau deddfu cymharol newydd yn cael eu dehongli gan Lywodraeth Cymru.
“Ond allwn ni ddim cael bil ar ôl bil yn cael eu pasio gan ein Cynulliad democrataidd, yna’n cael eu cyfeirio at y Goruchaf Lys gyda’r holl amser, cost ac ansicrwydd sy’n dod gyda hynny.
“Fe wnaeth y Comisiwn Silk argymell ein bod yn symud o’r system anfoddhaol bresennol o bwerau yn cael eu rhoi [i’r Cynulliad] i drefniant lle mae rhai pwerau’n cael eu cadw [gan San Steffan], fel sy’n digwydd yn yr Alban.”
Mae disgwyl i’r bil ddod yn ddeddf newydd ar ddiwedd y mis.
‘System ddatganoli yn fethiant’
Mae Eluned Parrott, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ar faterion cyfansoddiadol, wedi beirniadu’r broses gyfreithiol gan ddweud bod y system ddatganoli yn “fethiant”:
“Mae’r anhrefn gyfreithiol yn pwysleisio pa mor annigonol yw’r system ddatganoli bresennol.
“Mae’n rhaid i ni symud tuag at system sy’n debycach i’r model yn yr Alban, fyddai’n golygu nad yw San Steffan yn penderfynu pa ddeddfau sydd o fewn pŵer Cymru, ond eu bod yn dweud pa ddeddfau sydd ddim o fewn ein pwerau.
“Mae’r ffaith fod y ddeddf yma wedi gorfod mynd i’r Goruchaf Lys yn gwbl annerbyniol”.
‘Gwastraff arian cyhoeddus’
Yn ôl llefarydd Plaid Cymru dros Gymunedau Cynaliadwy, Ynni a Bwyd, Llŷr Gruffydd, mae’r broses o gyfeirio deddfwriaeth Llywodraeth Cymru at y Goruchaf Lys yn “wastraff diangen o arian cyhoeddus”:
“Nid yw’r trefniant datganoli presennol yn addas at y diben, ac y mae wedi hen ddyddio.
“Rwyf i am weld bwrdd newydd gyda chylch gorchwyl ehangach o lawer fel y gall chwarae rhan mewn cynyddu sgiliau a hyfforddiant, a hybu gyrfaoedd yn y diwydiant amaethyddol.”
‘Newyddion da i weithwyr amaeth’
Mae undebau Unite a TUC wedi croesawu penderfyniad y Goruchaf Lys gan ddweud ei fod yn “newyddion da i weithwyr amaeth Cymru, ac i Gymru gyfan”.
“Mae llawer sy’n gweithio yn y sector yn gweithio oriau hir mewn swyddi called ac yn ennill tua 75% o’r cyflog cyfartalog,” meddai llefarydd ar ran y TUC.
“Bydd y penderfyniad yn cael ei groesawu gan filoedd o weithwyr amaeth ledled Cymru, fyddai’n gallu colli tua £1 miliwn y flwyddyn heb y cytundeb yma.”
Ychwanegodd llefarydd ar ran Unite: “Mae’r penderfyniad heddiw wedi profi fod Mesur Amaeth Llywodraeth Cymru yn bendant wedi cael ei ddatganoli. Mae’n newyddion da i weithwyr amaeth Cymru, ac i Gymru gyfan.”