Mae Dyfodol i’r Iaith wedi dweud bod angen treblu cyllideb Cymraeg i Oedolion.
Daw eu sylwadau yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ei bod yn torri 7% oddi ar y gyllideb, sy’n cyfateb i ostyngiad o £2.3 miliwn.
Mewn datganiad, dywed y grŵp eu bod yn “dra siomedig bod y toriadau i Gymraeg i Oedolion…. yn fwy na’r arian ychwanegol sy’n cael ei gynnig i’r Mentrau Iaith ac i brosiect ar yr economi yn Nyffryn Teifi,” a bod “angen i raglen Cymraeg i Oedolion fod yn rhan ganolog o adfywio’r iaith yn y gymuned”.
Fel rhan o gyhoeddiad Llywodraeth Cymru, derbyniodd prosiect Dyffryn Teifi a’r Mentrau Iaith £750,000 yr un.
Mae Dyfodol i’r Iaith yn dweud eu bod yn croesawu sefydlu Canolfan Genedlaethol Cymraeg i Oedolion, ac maen nhw wedi galw am roi £30 miliwn i’r fenter yn hytrach na £10 miliwn fel sy’n cael ei neilltuo ar hyn o bryd.
Yn y datganiad, dywedodd Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, Heini Gruffudd: “Mae’n amlwg nad yw’r Llywodraeth wedi ystyried rôl hollbwysig Cymraeg i Oedolion wrth dargedu rhieni newydd ac wrth hyfforddi gweithlu Cymraeg.
“I wneud gwahaniaeth mae angen gwario swm tebyg i Wlad y Basgiaid, sef tua £40 miliwn y flwyddyn.
“Dyw’r rhan fwyaf o’n cyrsiau ni ddim yn ddigon dwys, a does dim rhaglen eang gyda ni i ryddhau pobl o’r gwaith i ddysgu’r iaith.
“Yn ardaloedd llai Cymraeg Cymru mae angen rhaglen sy’n targedu rhieni er mwyn newid iaith y cartref, ac i wneud hynny bydd angen i rieni gael cyfnod i ffwrdd o’r gwaith. Mae angen mawr hefyd am sefydlu cadwyn o Ganolfannau Cymraeg i roi bywyd cymdeithasol newydd i’r iaith.
“Yn yr ardaloedd Cymraeg mae gan Gymraeg i Oedolion rôl allweddol wrth ddysgu’r iaith i fewnddyfodiaid.
“Mewn cyfnod o wanhad cymunedau Cymraeg, dyma’r union adeg i weithredu’n fentrus i ehangu darpariaeth Cymraeg i Oedolion.”
‘Cyfystyr â cholli un darparwr mawr’
Mae Prif Weithredwr Popeth Cymraeg, Ioan Talfryn wedi dweud bod y gostyngiad yn y gyllideb yn gyfystyr â cholli un darparwr mawr yng ngogledd Cymru.
Mae’n amcangyfrif fod y Gymraeg wedi colli hyd at £2.3 miliwn ers cynnal Y Gynhadledd Fawr.
Mae disgwyl i’r gostyngiad fod yn £458,487 yn y gogledd sydd, yn ôl Ioan Talfryn “yn fwy na’r cyllid a ddyrennir yn flynyddol gan y Llywodraeth i gyrff CIO mawr, unigol megis Popeth Cymraeg, Coleg Cambria a Grŵp Llandrillo Menai”.
Ychwanegodd: “Mae’r toriad yn y gogledd eleni, felly, fel petai un darparwr mawr yn y gogledd wedi’i ddileu yn gyfan gwbl dros nos.”