Mae Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn Glyn Davies wedi galw ar ddau o bwyllgorau San Steffan i drafod materion o bwys i Gymru yn Gymraeg.

Ar hyn o bryd, mae’r Pwyllgor Materion Cymreig a Phwyllgor Mawr Cymru’n cynnal trafodaethau’n uniaith Saesneg.

Dadleua Glyn Davies fod angen annog aelodau’r pwyllgorau i ddefnyddio’r Gymraeg yn swyddogol mewn trafodaethau.

Yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd fod “yr iaith yn tanlinellu hunaniaeth Gymraeg ac elfennau unigryw diwylliant”.

Ychwanegodd: “Mae’n ymddangos yn anghywir nad yw’r Pwyllgor Materion Cymreig yn annog tystion i siarad yn Gymraeg ac alla’ i ddim gweld unrhyw reswm pam na ddylai Pwyllgor Mawr Cymru ganiatáu areithiau yn Gymraeg.”

Bwriad Pwyllgorau Mawr yw rhoi’r cyfle i Aelodau Seneddol drafod materion rhanbarthol trwy ddatganiadau gan weinidogion a sesiynau holi.

Mae’r 40 o Aelodau Seneddol  Cymreig yn aelodau’r pwyllgor, ynghyd â phum Aelod Seneddol o’r tu allan i Gymru.

Rygbi

Gwnaeth Glyn Davies ei sylwadau yn ystod trafodaeth ehangach o ddelweddau o Gymru yn y cyfryngau yng nghyd-destun rygbi.

Dywedodd y dylai’r wasg Brydeinig roi mwy o sylw i gemau rygbi Cymru yn hytrach na rhoi’r prif sylw i Loegr bob tro.

Cyfeiriodd at y penwythnos y bu bron i Gymru guro De Affrica fis diwethaf, tra bod Lloegr wedi cael cweir gan Seland Newydd.

Dywedodd fod mwy o sylw o lawer wedi’i roi i ganlyniad Lloegr nag i Gymru.

Tra bod gêm Lloegr wedi cael dwy dudalen lawn a sylw ar dudalen flaen un o’r papurau Sul, ychydig linellau’n unig gafodd gêm Cymru.

Ychwanegodd y gallai’r diffyg sylw i Gymru a’r Alban gael effaith ar ddyfodol y Deyrnas Unedig.