Senedd yr Alban
Gallai Llywodraeth Yr Alban dderbyn mwy o bwerau yn sgil trafodaethau yn San Steffan rhwng y pleidiau sydd am weld y Deyrnas Unedig yn parhau.
Mae’n bosib y gallai’r Alban dderbyn rhagor o bwerau tros drethi fel gwobr am aros yn rhan o’r Undeb, yn ol adroddiadau yn y Scotsman.
Yn ôl cenedlaetholwyr yr Alban, dydy’r pleidiau Prydeinig ddim yn awyddus i ddatganoli rhagor o bwerau i lywodraeth y wlad ond mae rhai yn darogan y gallai araith nesa’r Frenhines gynnwys manylion am Fil i roi mwy o bwerau iddyn nhw.
Eisoes, mae arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband wedi addo cyflwyno Bil Yr Alban pe bai’n dod yn Brif Weinidog yn yr Etholiad Cyffredinol y flwyddyn nesaf.
Mae disgwyl i’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol wneud yr un addewid yn y dyfodol.