Rhodri Morgan
Mae’r cyn Brif Weinidog Rhodri Morgan wedi cefnogi Carwyn Jones wrth wrthod y syniad o Ddyfarnwr Annibynnol i gadw llygad ar God y Gweinidogion.
Fe fydd dadl yn y Cynulliad heddiw am newid y drefn ar ôl i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Alun Davies, gael y sac am dorri’r rheolau.
Ddoe fe ymatebodd y Prif Weinidog yn chwyrn i’r awgrym gan arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Yn ôl Carwyn Jones roedd dyfarnu ar God y Gweinidogion yn rhan hanfodol o waith Prif Weinidog ac roedd achos Alun Davies yn dangos bod y system yn gweithio.
‘Disynnwyr’ meddai Morgan
Fe ddaeth cefnogaeth i’w safiad heddiw gan ei ragflaenydd, Rhodri Morgan – roedd y syniad o gael dyfarnwr annibynnol yn “ddisynnwyr” meddai ar Radio Wales.
Yn ôl y gwrthbleidiau, roedd methiant Carwyn Jones i roi’r sac i Alun Davies ynghynt yn dangos bod angen newid y drefn ac yn codi amheuon mawr am farn y Prif Weinidog ei hun.
Fe gafodd ei gadw yn ei swydd er iddo dorri’r Cod wrth roi pwysau ar un o’r cyrff dan ei ofal i beidio â gwrthwynebu trac rasio yn ei etholaeth ym Mlaenau Gwent.
Y diwrnod wedyn fe dorrodd y Cod eto trwy ofyn am wybodaeth gan weision sifil am fuddiannau ariannol ei wrthwynebwyr gwleidyddol.
‘Gwirion ac anfaddeuol’
Yn ôl Rhodri Morgan, roedd y weithred yn un “wirion” ac “anfaddeuol” a’r ffaith ei bod yn dilyn union ar ôl cwyn arall yn awgrymu bod Alun Davies yn mynd trwy “argyfwng canol oed”.
Ond roedd y ffaith fod gweision sifil wedi tynnu sylw at y camwedd yn dangos eu bod yn gwybod eu gwaith.
Ar ddiwedd y cyfweliad, fe awgrymodd y gallai Alun Davies fod yn rhan o’r Llywodraeth eto pebai’n bihafio yn y cyfamser.