Cyffro'r ras ym mhentref Reeth yn Swydd Efrog ddoe(Llun: John Giles/PA Wire)
Mae cannoedd o filoedd o gefnogwyr y Tour de France yn Swydd Efrog eto heddiw i wylio ail gymal y ras – taith 201km o Gaerefrog i Sheffield.
Daeth y cymal cyntaf i ben yn Harrogate neithiwr gydag anffawd i un o’r ffefrynnau i ennill, Mark Cavendish, sydd bellach allan o’r ras ar ôl y gwrthdrawiad.
Anafodd y rasiwr o Ynys Manaw ei ysgwydd ar ôl cael ei hyrddio i’r llawr wrth wrthdaro yn erbyn ei gyd-gystadleuwr Simon Gerrans. Ymddiheurodd yn ddiweddarach, gan ddweud mai ef ei hun oedd ar fai.
Dywed y trefnwyr fod dros filiwn o bobl yn gwylio’r cymal cyntaf ddoe, gan gynnwys 230,000 yng nghanol Leeds a thros 10,000 ar yr allt serth dros fwlch Buttertubs.
Mae’r ras yn cychwyn heddiw o gae rasio Caerefrog a bydd yn cynnwys un o elltydd beicio mwyaf adnabyddus Prydain, Holme Moss ger Huddersfield lle mae disgwyl dros 60,000 o gefnogwyr. Un arall o uchafbwyntiau’r ras fydd stryd fawr hynafol Haworth, cartref y chwiorydd Bronte.
Arena Sheffield fydd y llinell derfyn, cyn i’r beicwyr gael eu cludo i Gaergrawnt ar gyfer y trydydd cymal oddi yno i Lundain yfory.