Mae David Cameron yn wynebu galwadau i gynnal ymchwiliad llawnach i honiadau o weithgarwch pedoffilaidd yn San Steffan yn yr 1980au.

Mae’r Prif Weinidog wedi dweud y bydd adolygiad newydd o fewn y Swyddfa Gartref i weld beth ddigwyddodd i ffeil a gafodd ei chyflwyno yn 1983 i’r ysgrifennydd cartref Leon Brittan gan yr aelod seneddol Ceidwadol Geoffrey Dickens. Roedd y ffeil yn cynnwys manylion am bedoffiliaid honedig yn San Steffan.

Ond mae llefarydd Llafur ar faterion cartref, Yvette Cooper, wedi galw ar David Cameron i sefydlu ymchwiliad llawn i honiadau o gam-drin hanesyddol. Mae’n dweud hefyd y dylai’r llywodraeth gyhoeddi manylion adolygiad, gan ysgrifennydd parhaol y Swyddfa Gartref y llynedd, a ddaeth i’r casgliad nad oedd y ffeil wedi ei chadw o fewn yr adran.

Ddoe dywedodd David Cameron ei fod yn deall y pryderon am y ffeil sydd ar goll.

“Dyna pam rwyf i wedi gofyn i’r ysgrifennydd parhaol yn y Swyddfa Gartref wneud popeth y gall i gael atebion i’r cwestiynau hyn a gwneud yn siwr ein bod ni’n medru tawelu meddyliau pobol am y digwyddiadau hyn.

“Mae’n gymwys fod yr ymholiadau hyn yn cael eu gwneud,” meddai.

Ymchwiliad cyhoeddus

Mae’r AS Llafur Simon Danczuk, a gynhaliodd ymchwiliad i gam-drin honedig gan y cyn-AS rhyddfrydol Cyril Smith, wedi dweud bod angen ymchwiliad cyhoeddus.

“Mae’r cyhoedd wedi colli ffydd yn yr adolygiadau swyddogol hyn, sydd fel arfer yn gwyngalchu erbyn diwedd. Yr unig ffordd o fynd i wraidd y mater yw trwy ymchwiliad cyhoeddus,” meddai Simon Danczuk.