Mae Rolf Harris wedi cael ei ddedfrydu i bum mlynedd a naw mis o garchar ar ôl i reithgor ei gael yn euog o 12 cyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar ferched.

Yn Llys y Goron Southwark y prynhawn yma, fe ddywedodd y Barnwr Sweeney wrth y diddanwr 84 oed ei bod yn bosib y bydd yn treulio gweddill ei oes mewn cell:

“Mae eich enw da yn faw, rydych wedi cael eich dadwisgo o bob anrhydedd, ond does gennych neb i’w feio ond chi eich hun,” meddai’r Barnwr wrth ei ddedfrydu.

Roedd naw o’r 12 cyhuddiad yn erbyn pedair merch wahanol wedi digwydd rhwng 1968 ac 1985, a thri arall yn 1986.

Roedd un o’r merched yn ffrind i’w ferch, Bindi, a’r ddioddefwraig ifancaf  yn ddim hŷn na saith neu wyth oed.

Colli anrhydeddau

Mae Rolf Harris eisoes wedi colli ei gymrodoriaeth gyda’r gymdeithas ffilm a theledu, BAFTA a gradd brifysgol er anrhydedd ac mae’n debyg hefyd o golli ei CBE.