Arwydd yr ymgyrch
Mae ymgyrchwyr wedi bod ynghanol Aberystwyth yn casglu enwau ar ddeiseb i wrthwynebu agor cangen o’r gadwyn goffi Starbucks yn y dref.

Cyn heddiw, roedd mwy na 500 o bobol eisoes wedi arwyddo deiseb ar-lein sy’n cael ei chefnogi hefyd gan gyngor y dref a’r siambr fasnach leol.

Mae’r ymgyrchwyr yn dweud y bydd agor Starbucks mewn hen siop chips yn Aber yn gwneud drwg i’r holl siopau coffi bach annibynnol sydd yno eisoes.

‘Dim cyfraniad’

Yn ôl y ddeiseb, fyddai Starbucks ddim yn cefnogi’r gadwyn gyflenwi leol a’r unig arian i ddod yn ôl i economi’r ardal fyddai “cyflogau pitw”.

Maen nhw hefyd yn honni y byddai busnesau lleol wedi hoffi cymryd yr eiddo sydd ar gornel gyfleus, ond fod cost y rhent yn unig yn £60,000 y flwyddyn.

Ddwy flynedd yn ôl, fe gollodd ymgyrchwyr eu brwydr i atal Starbucks rhag agor siop goffi ar gampws y Brifysgol.

Y tro yma, mae’r gwrthwynebwyr wedi agor tudalen Facebook a chyfri Twitter i hyrwyddo’r ymgyrch.

Mae golwg360 wedi cysylltu gyda Starbucks i ofyn am eu cynlluniau.