Mae Andy Coulson wedi ei garcharu am 18 mis heddiw am gynllwynio i hacio ffonau tra’r oedd yn olygydd The News of The World.
Cafwyd y tad 46 oed, a fu’n gweithio fel sbin doctor i David Cameron, yn euog yr wythnos ddiwethaf yn dilyn achos llys wnaeth barhau am wyth mis.
Dywedodd y Barnwr Saunders bod Coulson yn amlwg o’r farn bod angen hacio ffonau er mwyn sicrhau bod y papur dydd Sul yn parhau’n gystadleuol.
Ychwanegodd y Barnwr bod The News of The World wedi oedi wrth roi gwybod i’r heddlu am neges ffôn Milly Dowler yn 2002 er mwyn gallu “hawlio’r clod am ddod o hyd iddi” a gwerthu’r nifer fwyaf posib o bapurau newydd.
Yn ôl y Barnwr fe ddylai Coulson fod wedi rhoi stop ar hacio ffonau, yn hytrach na’i annog.
Eraill yn y Doc
Hefyd heddiw fe garcharwyd Greg Miskiw, golygydd newyddion The News of The World, a’r prif ohebydd Neville Thurlbeck am chwe mis yr un.
Fe gafodd y golygydd newyddion James Weatherup bedwar mis, wedi ei ohirio am 12 mis, a’i orchymyn i wneud 200 awr o waith cymunedol di-dâl.
Roedd y tri wedi cyfaddef i gynllwynio ar y cyd er mwyn gwrando ar negeseuon ffôn yn anghyfreithlon rhwng Hydref 2000 ac Awst 2006.
Carcharwyd y ditectif preifat Glenn Mulcaire am Chwe mis, wedi ei ohirio am 12 mis, a’i orchymyn i wneud 200 awr o waith cymunedol di-dâl.
Roedd Mulcaire wedi cyfaddef iddo hacio ffonau cyn i’r achos llys gychwyn y llynedd, a daeth i’r amlwg bod The News of The World wedi talu hanner miliwn o bunnau iddo am y gwaith.