Traed Tudur Owen cyn cychwyn y daith faith
Bydd llond trol o enwogion Cymraeg yn cychwyn cerdded y 200 milltir o’r gogledd i’r de yfory, i godi arian at wasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru.
Mae taith noddedig Cerddwn Ymlaen, sy’n cael ei harwain gan y tenor Rhys Meirion, wedi codi £250,000 dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac eleni fydd y tro olaf i’r digwyddiad gael ei gynnal.
Rhai o’r enwau cyfarwydd sy’n ymuno gyda’r canwr i gerdded o Fae Colwyn i Gaerdydd yw’r comedïwr Tudur Owen, y canwr sioeau cerdd John Owen Jones, y naturiaethwr Iolo Williams, y cyflwynydd Gerallt Pennant a’r hyfforddwr rygbi Robin McBryde.
Mi fyddan nhw’n cerdded tua 26 milltir bob diwrnod, ac mae disgwyl i’r siwrne gymryd wyth diwrnod.
‘Werth bob eiliad’
Cyn cychwyn y daith, dywedodd Rhys Meirion, sef llysgennad Ambiwlans Awyr Cymru:
“Dyma’r trydydd Cerddwn Ymlaen i mi ac mi fydda i’n falch o gyrraedd Caerdydd ar y diwrnod olaf, ond hefyd yn cofio mai dyma’r tro olaf i mi gwblhau’r daith.
“Mae’r teithiau hyn wedi bod yn dipyn o sialens, sydd wedi cymryd lot fawr o drefnu, ond maen nhw wedi bod werth bob eiliad.”
Bydd y daith yn dod i ben yng Nghastell Caerdydd yn Tafŵyl, yr ŵyl Gymreig, ar 12 Gorffennaf.