Gormydaith yr Urdd Oren
Mae unoliaethwyr wedi cefnu ar drafodaethau heddwch ym Melffast yn sgil penderfyniad y Comisiwn Gorymdeithiau i wahardd gorymdaith ar Orffennaf 12.

Dywedodd y Comisiwn fod perygl y gallai’r cyhoedd gamymddwyn ac y gallai hynny gael effaith negyddol ar gydberthnasau yn y gymdeithas.

Roedd disgwyl i’r orymdaith deithio ar hyd Heol Crumlin, sy’n agos i Ardoyne, sy’n ardal genedlaetholgar.

Mae’r Unoliaethwyr Democrataidd ac Unoliaethwyr Ulster wedi tynnu allan o’r trafodaethau yn Stormont o ganlyniad.

Roedd gorymdeithiau ar yr agenda ar gyfer ail ddiwrnod o drafodaethau yn Stormont i geisio cau pen y mwdwl ar nifer o faterion sydd heb gael eu datrys hyd yn hyn.

Mae terfysgoedd wedi bod yn gyffredin yn ystod gorymdeithiau yn y ddinas yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Y gost o gyflogi heddlu ar gyfer y digwyddiad blynyddol yw £10 miliwn.

Mewn datganiad, dywedodd yr Unoliaethwyr Democrataidd ac Unoliaethwyr Ulster y dylid ymateb yn heddychlon i benderfyniad y Comisiwn.

Ychwanegodd y pleidiau: “Bellach, fe fydd y DUP a’r UUP yn rhoi’r gorau i gymryd rhan yn nhrafodaethau’r arweinwyr sydd bellach yn ddi-ffrwyth.”