Llys Ynadon Westminster
Mae cyn-gynorthwyydd i David Cameron wedi ymddangos yn y llys, wedi’i gyhuddo o greu ac o fod â lluniau anweddus o blant yn ei feddiant.

Cadarnhaodd Patrick Rock ei enw a’i gyfeiriad pan ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Westminster y bore ma.

Mae Rock, sy’n dod o Fulham yn ne-orllewin Llundain, yn wynebu tri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant ac un cyhuddiad o fod â delwedd anweddus o blant yn ei feddiant.

Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud â mwy na 60 o ddelweddau categori C, sef y categori isaf.

Honnir i’r troseddau gael eu cyflawni yn yr Unol Daleithiau, lle bu Rock yn byw a gweithio cyn symud i Brydain.

Cafodd Rock, sy’n 63 oed, ei ryddhau ar fechnïaeth, ac fe fydd e’n ymddangos gerbron Llys y Goron Southwark ar Orffennaf 17.