Gorymdaith yr Urdd Oren
Bydd trafodaethau’n dechrau ym Melffast heddiw yn y gobaith o ddatrys nifer o faterion heddwch sydd heb gael eu trafod hyd yn hyn.

Ar yr agenda fydd anghydfodau tros faneri a gorymdeithiau, yn ogystal â dadleuon y gorffennol sydd heb gael eu datrys yn llawn.

Mae disgwyl i’r trafodaethau yn Stormont bara tridiau, ac fe fydd tridiau arall o drafodaethau’r wythnos nesaf.

Mae arweinwyr y pum prif blaid wedi dod at ei gilydd i geisio datrys y materion cyn dechrau tymor y gorymdeithiau, sy’n dechrau ar Orffennaf 12.

Ond does fawr o obaith iddyn nhw ddod i gytundeb gan fod y farn wleidyddol wedi hollti’n sylweddol.

Mae Sinn Fein eisoes wedi dweud bod y cyhoedd yn amau llwyddiant y trafodaethau, ond fod angen rhoi’r sinigiaeth o’r neilltu er mwyn cael datrysiad.

Daeth y trafodaethau blaenorol o dan arweiniad yr Americanwr Richard Haass i ben heb unrhyw fath o atebion.

Bydd ei argymhellion yn cael eu trafod ymhellach yn ystod y rowndiau nesaf o drafodaethau.

Gorymdaith Oren

Bu mis Gorffennaf yn fis gwaedlyd yn draddodiadol yn sgil yr Orymdaith Oren sy’n cael ei chynnal mewn cymuned wladgarol.

Does dim cadarnhad eto a fydd y gorymdeithwyr yn cael caniatâd i gynnal y digwyddiad blynyddol eleni.

Mae arweinydd plaid SDLP, Dr Alasdair McDonnell wedi galw ar lywodraethau Prydain ac Iwerddon i gymryd rhan weithgar yn y broses heddwch.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Peter Robinson a’i ddirprwy Martin McGuinness gyfarfod â Phrif Weinidog Prydain, David Cameron yn Downing Street tra bod y trafodaethau’n digwydd ym Melffast.

Yn dilyn hynny, fe fydd McGuinness ac arweinydd Sinn Fein, Gerry Adams yn cynnal trafodaethau pellach gyda Cameron.