Mae’r actor a’r comedïwr o Ganada, Mike Myers wedi dweud na ddylai’r Alban bleidleisio o blaid annibyniaeth.
Llais y cymeriad ffilm ‘Shrek’, sydd ag acen Albanaidd, yw’r diweddaraf i leisio barn am y refferendwm fydd yn cael ei gynnal ar Fedi 18.
Dywedodd Myers wrth raglen Today ar Radio 4 ei fod yn gobeithio y bydd Yr Alban yn parhau’n rhan o’r Deyrnas Unedig.
Ond ychwanegodd ei fod yn gyndyn o leisio barn ar y dechrau.
Mewn llais y cymeriad Shrek, dywedodd wrth y rhaglen: “Mae Shrek am gael beth bynnag yw ewyllys pobol Yr Alban”.
Wrth barhau i drafod y mater, dywedodd Myers: “Rwy’n caru’r Alban. Gobeithio y byddan nhw’n parhau’n rhan o Brydain – ac os nad ydyn nhw, fe fydda i’n parhau i’w caru nhw.”
Mae nifer o enwogion eraill wedi datgan yr un safbwynt â Myers, gan gynnwys y canwr David Bowie a’r awdures JK Rowling.
Maen nhw wedi cael eu targedu ar-lein gan gefnogwyr annibyniaeth yn dilyn eu sylwadau.