Gallai mellt a tharanau achosi problemau yn Wimbledon ac amharu ar y chwarae heddiw.

Yn ôl rhagolygon mae’n debygol y bydd Wimbledon yn cael ei wlychu gan gawodydd trwm ac efallai hyd yn oed gan genllysg.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd: “Mae Wimbledon yn sicr o fewn y band o gawodydd sydd wedi symud ar draws y DU.”

Ychwanegodd fod yna bosibilrwydd o felt a tharanau.

Ni fydd y tywydd yn effeithio ar y chwarae ar Centre Court, lle bydd Andy Murray yn herio Roberto Bautista Agut o Sbaen, oherwydd bod y cwrt dan do.

Yn ogystal â Murray, bydd Novak Djokovic a Venus Williams hefyd yn chwarae ar Centre Court.