Banc Lloegr
Roedd lefel chwyddiant wedi gostwng i’w lefel isaf ers pedair blynedd a hanner ym mis Mai.

Mae’n debyg mai’r gystadleuaeth rhwng yr archfarchnadoedd, sydd wedi arwain at y gostyngiad mwyaf ym mhrisiau bwyd a diod ers bron i ddegawd, sy’n bennaf gyfrifol.

Roedd Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) wedi gostwng yn fwy na’r disgwyl i 1.5% o 1.8% yn y mis blaenorol, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Dyma’r chweched mis yn olynol mae graddfa chwyddiant wedi cyrraedd, neu’n is, na tharged Banc Lloegr o 2%, y tro cyntaf ers 2009.