William Hague
Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Tramor, William Hague, gyhoeddi heddiw eu bod yn ystyried ail-agor llysgenhadaeth Prydain ym mhrifddinas Iran, Tehran.
Fe gafodd y llysgenhadaeth ei gau ar ôl ymosodiadau arno yn 2011 ond mae disgwyl i Hague ddweud bod cynllun i’w ail-agor er mwyn gwella’r berthynas ddiplomyddol rhwng Prydain ac Iran.
Mae gwledydd y Gorllewin wedi troi at Iran am gymorth i geisio lleddfu’r argyfwng yn Irac.
Mae’r grŵp eithafol Isis wedi meddiannu rhannau helaeth o dir yn Irac dros y dyddiau diwethaf ac mae America wedi dweud ei bod yn barod i drafod gydag Iran ynglŷn â sut y gall y ddwy wlad atal y gwrthryfelwyr Swnni.
Fe gyhoeddiad Barak Obama bod America am anfon hyd at 275 o filwyr i Irac i amddiffyn llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau nes bod y sefyllfa yno wedi gwella.
Dywedodd Hague ddoe nad oes bwriad i anfon lluoedd Prydain i Irac ond y byddai Prydain yn medru helpu gydag “arbenigedd gwrth-derfysgol”.