Mae’r cyhoedd mewn peryg oherwydd “methiant gwleidyddol a pholisi” mewn carchardai, ac fe allai gyrraedd uchafbwynt yr haf hwn os bydd y tywydd yn boeth.
Dyna rybudd y dyn sy’n cadw llygad ar y modd y mae’r weinyddiaeth gyfiawnder yn delio gyda’r cynnydd yn niferoedd carcharorion.
Ac fe rybuddiodd Nick Hardwick, Prif Arolygydd carchardai gwledydd Prydain ar raglen Today, Radio 4, heddiw: “Mae toriadau yn y gwariant wedi arwain at fwy o garcharorion yn lladd eu hunain, neu’n cael eu hanfon yn fwriadol i flociau cosb er mwyn osgoi’r amodau byw.
“Dw i’n poeni’n arw am yr effaith y gallai ha’ poeth ei gael ar garcharorion… mae’n rhaid i weinidogion ddod o hyd i gryn dipyn mwy o adnoddau – neu dorri i lawr ar y nifer sy’n cael eu hanfon i garchar.”