Fe fydd pobol Cernyw yn derbyn statws lleiafrif cenedlaethol am y tro cyntaf yn eu hanes.
Ar ol ymgyrch hir, fe fydd trigolion y sir bellach yn derbyn yr un statws â gwledydd eraill lleiafrifol ym Mhrydain – fel Cymru, yr Alban ac Iwerddon – sydd eisoes yn cael eu gwarchod o dan reolau Ewropeaidd.
Mae disgwyl i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, wneud y cyhoeddiad swyddogol wrth iddo ymweld â Bodmin yn ddiweddarach heddiw.
Croeso cynnes gan Febyon Kernow
Mae’r newyddion wedi cael croeso cynnes gan arweinydd y blaid genedlaetholgar Mebyon Kernow – roedd yn “ddatblygiad ffantastig”, meddai.
“Mae llawer o bobol wedi bod yn gweithio am flynyddoedd i Gernyw gael yr un gydnabyddiaeth â phobloedd Geltaidd eraill y Deyrnad Unedig.
“Does dim manylion eto am oblygiadau posib hyn ond does dim amheuaeth ei fod yn ddiwrnod o falchder i Gernyw.”
‘Hunaniaeth unigryw’
”Mae gan bobol Cernyw hanes balch a hunaniaeth unigryw,” meddai Danny Aexander. ”Dw i wrth fy modd ein bod wedi gallu cydnabod hyn yn swyddogol a rhoi’r un statws i bobol Cernyw â lleiafrifoedd eraill ym Mhrydain.”
Ychwanegodd y Gweinidog Cymunedau Stephen Williams: ”Mae hwn yn ddiwrnod da iawn i bobol Cernyw sydd wedi ymgyrchu’n hir am gydnabyddiaeth swyddogol i hunaniaeth unigryw’r sir.
”Pobol Cernyw a’r Cymry yw’r cymdeithasau mwyaf hynafol ym Mhrydain ac fel Cymro balch rwyf yn edrych ymlaen at weld baner Sant Piran yn chwifio gyda balchder ychwanegol ar 5 Mawrth y flwyddyn nesaf.”
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg esioes wedi dweud y bydd Llywodraeth San Steffan yn buddsoddi £120,000 ym Mhartneriaeth yr Iaith Gernyweg er mwyn hybu a datblygu’r iaith yn y sir.