'Cywilyddus' meddai Ban Ki-moon
Mae 3.5 miliwn o bobol gyffredin yn Syria heb allu i gael cymorth sylfaenol, meddai pennaeth y Cenhedloedd Unedig.

Ac, yn ôl Ban Ki-moon, mae cannoedd o filoedd o bobol yn marw yn ddiangen yno o ganlyniad i’r rhyfel cartref.

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi condemnio’r ddwy ochr yn yr ymladd am beidio â chadw at benderfyniad gan y CU ym mis Chwefror eleni.

Y nod oedd clirio’r ffordd i ganiatáu i gymorth dyngarol – gan gynnwys bwyd, moddion ac angenrheidiau eraill – gyrraedd pobol gyffredin.

Ond doedd hynny ddim wedi digwydd, meddai Ban Ki-moon mewn adroddiad i Bwyllgor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.

Roedd hi’n “gywilyddus”, meddai, fod tua chwarter miliwn o bobol yn dal i fyw dan warchae.

Galw am weithredu

Fe alwodd ar i Lywodraeth Syria, yn enwedig, wneud rhagor i hwyluso’r ffordd i fudiadau dyngarol.

Ond roedd yn beirniadu’r ddwy ochr am eu dulliau ymladd, gyda’r Llywodraeth yn bomio’n ddireolaeth a’r gwrthryfelwyr yn tanio morteri at ardaloedd lle mae pobol gyffredin.

Fe alwodd Ban Ki-moon am gael gwared ar yr holl filwyr tramor sy’n ymladd ar y naill ochr a’r llall.