Mae cyfarfod yn New Scotland Yard heddiw
Mae heddlu yng Nghymru’n rhan o ymgyrch newydd i geisio atal pobol ifanc rhag mynd i ymladd yn y rhyfel cartref yn Syria.
Mae Heddlu De Cymru yn arbennig yn dweud bod peryg i bobol ifanc fynd i Syria i gynnig cymorth dyngarol a chael eu radicaleiddio wedyn.
Maen nhw’n dweud bod tystiolaeth am bobol ifanc o’r ardal yn mynd yno i ymladd.
Fe fydd y llu’n cymryd rhan mewn cyfarfod yn Scotland Yard heddiw, yn rhan o ymgyrch ‘Atal’ sydd hefyd yn cynnwys y Comisiwn Elusennau.
Cynnydd
Mae nifer y bobol sydd wedi eu harestio am droseddau’n ymwneud â Syria wedi codi o 25 y llynedd i gyd trwy wledydd Prydain i 40 yn nhri mis cynta’ eleni.
Fe ddaeth y newyddion ynghynt yr wythnos yma fod dyn 18 oed o Brighton, Abdullah Deghayes, wedi ei ladd yn ymladd yn Syria a fod ei ddau frawd allan yno hefyd.
Mae uned wrth-derfysgaeth yr heddlu’n amgangyfri’ bod tua 400 o bobol o wledydd Prydain wedi mynd i Syria i ymladd a bod tuag 20 wedi eu lladd.
‘Pryder cynyddol’
“Rydyn ni’n pryderu’n gynyddol am nifer y bobol ifanc sydd wedi teithio i Syria i ymuno yn yr ymladd, neu sy’n bwriadu gwneud hynny,” meddai Helen Ball, Uwch-gydlynydd Gwrth-Derfysgaeth Prydain.
“Nid mater o droi pobol yn droseddwyr yw hyn, ond mater o atal trychinebau. Rydyn ni eisiau rhoi gwybod i bobol sydd wirioneddol eisiau helpu achos Syria sut y gallan nhw wneud hynny yn ddiogel a chyfreithlon.”