Mae Heddlu mwya’ Cymru’n honni bod ffigurau troseddu yn eu hardal ar eu hisa’ ers yr 1980au.

Mae’r ffigurau diweddara’ ar gyfer Heddlu De Cymru yn dangos bod 0.5% yn llai o droseddu yn y flwyddyn at ddiwedd 2013.

Ond fe fu cynnydd mawr mewn troseddau rhyw a throseddau trais ac maen nhw’n cydnabod bod yna duedd genedlaethol at ragor o ddwyn beiciau a dwyn o siopau.

‘Gwaith caled’

Er fod corff arolygu’r heddlu – yr HMIC – wedi codi amheuon mawr am gywirdeb ffigurau plismona’n gyffredinol, mae Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Richard Lewis, yn mynnu bod y ffigurau’n arwydd o waith caled ac ymroddiad.

Ond dyw e ddim wedi cynnig esboniad am gynnydd o bron 37% mewn troseddau rhyw – yn gyffredinol, mae gwell ymwybyddiaeth yn gallu bod yn rhannol gyfrifol am hynny.

Fe fu cynnydd hefyd o 12.9% mewn troseddau o drais corfforol – er bod yr Heddlu’n dweud eu bod yn gweithio’n galetach ac wedi cael clod am eu hymdrechion i leihau trais yn y cartref.

Ar i lawr

Dyma rai o’r meysydd lle bu gostyngiadau:

Lladrad –  -6.8%

Dwyn ceir –  -10.1%

Byrgleriaeth o dai –  -7.7%

Troseddau cyffuriau –  -8.8%