Mae dynes a fu’n teithio’r byd tra’n hawlio miloedd o bunnau mewn budd-daliadau anabledd wedi cael ei dedfrydu i garchar.

Roedd Tracy Johnson, 52, wedi hawlio tua £50,000 gan ddweud nad oedd hi’n gallu gadael y tŷ oherwydd ei bod yn dioddef o gyflwr agoraffobia.

Ond clywodd Llys y Goron Merthyr bod y ddynes o Frome yng Ngwlad yr Haf wedi byw “bywyd moethus” ac wedi bod ar deithiau i India, Efrog Newydd a Madrid yn ogystal â gweithio i gwmni teithio yn yr Ariannin am chwe mis.

Roedd wedi defnyddio cyfeiriad ei mam yn Llanfair ym Muallt er mwyn hawlio’r budd-daliadau ac wedi dweud nad oedd hi’n gallu cerdded mwy na phum medr heb gymorth.

Mae Tracy Johnson wedi cael ei dedfrydu i flwyddyn yn y carchar.

‘Un o’r achosion gwaethaf o dwyll’

Dywedodd Andrew Penhale, o Wasanaeth Erlyn y Goron, fod yr achos yn un o’r esiamplau gwaethaf o dwyll iddo erioed ei weld.

“Mae Tracy Johnson wedi cynllwynio twyll yn erbyn pwrs y cyhoedd,” meddai.

“Mae hi wedi cymryd mantais o system sydd wedi ei greu i helpu pobol fwyaf bregus y gymdeithas.”

“Fe wnaeth hi hyd yn oed sgwennu llyfr am ei phrofiad fel Saesnes yn byw yn yr Ariannin.”

“Mae’n un o’r achosion gwaethaf o dwyll i mi erioed ei weld.”