Bore clonc yng nghaffi Paul Sartori, Hwlffordd
Iolo Cheung fu lawr yn Sir Benfro i weld beth oedd y pynciau llosg lleol …

Pryder am wasanaethau ysbyty, llond bol ar gynghorwyr sir a gofid am stad dai newydd anferth … dyna’r pynciau llosg wrth i ni fynd lawr i Hwlffordd yn Sir Benfro ar ein taith gyntaf dan faner Golwg ar Grwydr.

Y syniad ydi’n bod ni’n mynd allan i wahanol lefydd yng Nghymru a sgwrsio â phobl leol, er mwyn clywed beth ydi’r pynciau llosg a’r straeon sydd yn bwysig yn eu hardal nhw.

Ac fe gafodd criw Golwg groeso mawr wrth i ni ymweld â chriw o ddysgwyr Cymraeg yng nghaffi Paul Sartori yn Hwlffordd i gael gwybod beth oedd yn eu poeni nhw …

Llwynhelyg a llywodraeth

Un pwnc llosg sydd yn amlwg wedi corddi pobl yn yr ardal yw’r cynlluniau i symud gwasanaethau o Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd – fe fyddai’n rhaid teithio i Gaerfyrddin neu Abertawe am rai triniaethau petai hynny’n digwydd.

Roedd hyn yn amlwg yn destun pryder, gyda’r trigolion yn mynnu nad oes modd trin Llwynhelyg yr un peth ag ysbyty mewn ardal boblog, yn enwedig o ystyried pethau fel teithio.

Byddai symud cleifion i ysbytai eraill yn golygu llawer mwy o deithio i drigolion sir Benfro er mwyn ymweld â’u teulu a’u ffrindiau, medden nhw, ac fe fyddai ymweliadau cyson yn dda i iechyd meddwl claf.

Roedd yn ymddangos fel petai’r anniddigrwydd lleol wedi’i gyfeirio at Lywodraeth Cymru am hyn, gyda’r awgrym fod y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn ddyn amhoblogaidd o gwmpas Hwlffordd.

Ond tu hwnt i hynny roedd pobol hefyd yn pryderu a oedden Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw wahaniaeth, gydag un person (pro-datganoli) yn holi beth yn union maen nhw’n ei wneud droson ni.

Roedd materion fel dyfodol purfa olew Murco yn Aberdaugleddau hefyd yn hawlio’r sylw, gyda phryder am swyddi i bobol yn yr ardal yn uchel ar yr agenda.

Doedd dim llawer o frwdfrydedd tuag at yr awdurdod lleol chwaith, gyda nifer o’r trigolion yn dweud fod pobol wedi cael llond bol ar ymddygiad rhai o gynghorwyr sir Penfro.

Un pwnc arall a gododd oedd datblygiad arfaethedig ar gyrion Hwlffordd a fyddai’n cynnwys 729 o dai ac archfarchnad Sainsbury’s.

Gallwch ddarllen mwy am y stori honno yn Golwg yr wythnos hon – ond roedd nifer o’r trigolion y buon ni’n sgwrsio â nhw yn pryderu nad i bobl leol fyddai’r tai yn mynd.

Byddai pobol yn symud i mewn i’r ardal o lefydd eraill yn gallu golygu rhagor o straen ar wasanaethau lleol sydd eisoes yn dioddef toriadau, medden nhw.

Caffi Paul Sartori

Er gwaethaf y trafod am bynciau dwys ar  adegau roedd yr awyrgylch yng nghaffi Paul Sartori yn hwyliog a chyfeillgar tu hwnt.

Cafodd Sefydliad Paul Sartori ei sefydlu yn 1982, wedi’i enwi ar ôl offeiriad lleol a fu’n gweithio i wella gofal hosbis yn sir Benfro.

Mae’r elusen bellach yn talu am nyrsys ar draws y sir er mwyn darparu’r gofal hwnnw, gyda llawer o’u harian yn cael ei godi drwy eu siopau elusen ar hyd a lled sir Benfro.

Fe wnâi adael i Catrin Braithwaite o’r Sefydliad esbonio mwy am beth sydd yn mynd ymlaen yno:

Nid y Sefydliad sydd yn rhedeg y caffi uwchben eu siop yn Hwlffordd ble buon ni, ond yn hytrach Coleg Sir Benfro.

Maen nhw’n rhedeg y caffi heb wneud elw, gan gynnig cyfle i bobl ifanc weithio yno a magu sgiliau bwyd, gweini a hylendid sydd wedi galluogi degau ohonynt i symud ymlaen i waith parhaol.

Mae unrhyw elw dros ben y mae’r caffi yn ei wneud wedyn yn mynd yn syth i Sefydliad Paul Sartori, ac ers dechrau’r fenter dwy flynedd yn ôl maen nhw wedi cyfrannu £6000.

Felly os ydych chi o gwmpas Hwlffordd rywbryd, cofiwch daro i mewn yno (maen nhw ar y Stryd Fawr) – rydych chi’n siŵr o gael croeso cynnes!

Taro heibio i’r Scarlets

Roedd hi’n ddiwrnod gwych i ni ar ein Golwg ar Grwydr cyntaf felly – a doedd hi ddim ar ben chwaith wrth i ni ymlwybro yn ôl i Lanbed heibio i Arberth.

Achos pwy oedd yng Nghlwb Rygbi Arberth yn rhedeg gwersyll Pasg i’r plant lleol ond rhanbarth y Scarlets.

Roedd y plant wrth eu boddau’n cael eu hyfforddi gan sêr rygbi Cymru, Scott Williams a Liam Williams, ac ambell un yn disgleirio hefyd.

Braf oedd gweld y Scarlets yn mynd allan i’r gymuned a chynnal digwyddiadau felly (roedden nhw hefyd wedi bod yn Ynys Môn yn ddiweddar) – mae’n sicr yn helpu i gynnal brwdfrydedd am rygbi yn yr ardaloedd hynny.

Dyma Scott Williams yn sôn ychydig am y profiad:

Bydd ein Golwg ar Grwydr nesaf yfory, dydd Iau 24 Ebrill, ac fe allwch chi daro mewn i’n gweld yn Labordy’r Môr Wdig yn Abergwaun yn y bore, neu yn Siop Sian yn Crymych yn y prynhawn.