Un o streiciau'r NUT (Llun: Yr Undeb)
Mae undeb athrawon mwya’ Cymru a Lloegr wedi dweud bod mwy o streicio ar y gweill a bod athrawon yn barod i gerdded allan o’u gwaith nes y bydd bolisïau addysg Llywodraeth Prydain yn cael eu newid.
Mae aelodau o undeb yr NUT eisoes wedi cynnal sawl streic dros doriadau i gyflogau, pensiynau a phwysau gwaith ac, ar ddiwrnod olaf eu cynhadledd flynyddol yn Brighton, dywedodd Christine Blower, yr Ysgrifennydd Cyffredinol y bydden nhw’n gweithredu “cymaint ag sydd raid”.
Y mis diwethaf, roedd cannoedd o ysgolion ledled Cymru a Lloegr ynghau o ganlyniad i streic.
Streic genedlaethol arall?
Ychwanegodd Christine Blower fod yr undeb wedi gweithredu mwy yn ddiweddar nag yn y 30 mlynedd ddiwethaf.
Mae’r undeb yn ystyried cynnal streic genedlaethol arall, lobio Senedd San Steffan, cynnal trafodaethau gyda rhieni disgyblion a chymryd rhan mewn trafodaeth gyda Llywodraeth Prydain.
Maen nhw hefyd yn bygwth gwrthod cydweithredu gyda phrofion i blant pedair oed, gan ddweud fod y Llywodraeth yn eu trin fel “robotiaid”.