Nigel Farage
Mae Nigel Farage wedi gwrthod beirniadaeth bod posteri ar gyfer ymgyrch UKIP yn etholiadau Ewropeaidd yn hiliol.
Dywedodd arweinydd y blaid bod pleidiau eraill yn “codi hleynt” dros y lluniau am nad ydyn nhw eisiau cael “trafodaeth onest” am fewnfudo.
Daeth ei sylwadau wedi i arweinydd crefyddol ymuno ag Aelodau Seneddol wrth feirniadu’r posteri.
Dywedodd Cardinal Vincent Nichols, arweinydd yr Eglwys Gatholig yng Nghymru a Lloegr, ei bod yn anghywir i ddefnyddio ymadroddion sy’n awgrymu “gofid neu dristwch” am bobl sy’n dod i fyw yng ngwledydd Prydain.
Y posteri
Mae posteri UKIP, a fydd yn cael eu harddangos mewn cannoedd o safleoedd ar draws y DU, yn rhybuddio bod gweithwyr o wledydd Prydain yn dioddef oherwydd gweithwyr o dramor.
Dywed un poster fod 26 miliwn o bobol yn Ewrop yn chwilio am waith, gan ychwanegu, gyda llun o fys yn pwyntio at y darllenydd, “a swydd pwy maen nhw ar ei ôl?”.
Mae poster arall yn cwyno bod 75% o ddeddfau Prydain yn cael eu gwneud ym Mrwsel a bod trethdalwyr y Deyrnas Unedig yn talu am “ffordd o fyw” biwrocratiaid yr Undeb Ewropeaidd.
‘Honiadau sbeitlyd’
Dywedodd yr AS Llafur, Keith Vaz, cadeirydd Pwyllgor Dethol Materion Cartref Tŷ’r Cyffredin: “Mae UKIP wedi gostwng tôn y ddadl Ewropeaidd gyda honiadau sbeitlyd ac anghywir am fewnfudo sy’n ceisio gwneud dim ond rhannu cymunedau.”
Mae UKIP wedi talu am yr ymgyrch gydag £1.5 miliwn a gawson nhw gan gyn-gyfrannwr mawr at y blaid Dorïaidd, Paul Sykes.
Dyma ymgyrch gyhoeddusrwydd mwyaf UKIP erioed ac mae’r blaid yn anelu at ennill y gyfran fwyaf o’r pleidleisiau yn yr etholiad ar 22 Mai.
Dywedodd Nigel Farage bod yr ymgyrch yn tynnu sylw at yr angen i bobol Prydain “adennill a rheoli ein ffiniau”.