Porth Eirias (o wefan y datblygiad)
Ar ôl dweud y bydd ei fwyty newydd yn agor y llynedd ac wedyn “yn fuan yn 2014”, fydd bwyty newydd y cogydd Bryn Williams ddim yn agor ym Mhorth Eirias tan yr hydref, yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Conwy.
Roedd disgwyl i fwyty’r Cymro agor ym mis Tachwedd y llynedd ond wedyn fe newidiodd hynny i fis Ionawr – yn ôl y cyngor mae oedi pellach wedi bod oherwydd “gwaith papur a materion cyfreithiol”.
Mae gosod cegin newydd yn yr adeilad hefyd wedi achosi problemau, meddai’r cyngor, sy’n gyfrifol am ddatblygu’r safle.
Yn dilyn ei lwyddiant ar y rhaglen deledu Great British Menu yn 2006, fe gafodd Bryn Williams, sy’n wreiddiol o Ddinbych, gynnig bod yn brif gogydd ym mwyty Odettes yn Llundain.
Mae o bellach wedi prynu’r bwyty llwyddiannus ac yn bwriadu agor ei fwyty cyntaf yng Nghymru.