Cafodd trigolion mewn trefi yn ardal Rutland eu deffro gan ddaeargryn y bore ma.
Mae Arolwg Daearegol Prydain wedi cadarnhau bod y daeargryn yn mesur 3.2 ar raddfa Richter.
Mae cyn-fewnwr tîm rygbi Lloegr, Austin Healey wedi trydar ei fod e wedi teimlo’r daeargryn yn ei gartref yn nhref Oakham.
Cafodd ei deimlo tua 7.07yb heddiw.
Trydarodd Austin Healey (@IamAustinHealey) fod y tŷ yn crynu am oddeutu 10 eiliad:
Austin Healey @IamAustinHealey 3 hrs
We’ve just had an earthquake in #oakham the house was shaking for about 10secs
Roedd Twitter yn frith o negeseuon tebyg heddiw, gyda thrigolion Oakham, Stamford a Kettering yn sôn eu bod nhw wedi teimlo’r daeargryn.