Bryn Terfel
Fe fydd Bryn Terfel yn dathlu achlysur ei ben-blwydd yn 50 oed gyda chyngerdd yn Neuadd Albert y flwyddyn nesaf.
Bydd cyngerdd arbennig yn cael ei chynnal yn y neuadd eiconig yn Llundain ar Hydref 20, 2015.
Bydd y bariton o Bant Glas yn Sir Gaernarfon yn dychwelyd i’r neuadd lle perfformiodd am y tro cyntaf dros 30 o flynyddoedd yn ôl.
Bellach, mae e wedi perfformio yno ddegau o weithiau.
Perfformiodd yno am y tro cyntaf ar Fawrth 2, 1985 fel rhan o ddathliadau Gŵyl Ddewi.
Mae disgwyl iddo berfformio rhai o’r ffefrynnau o’r byd clasurol, gan gynnwys darnau gan Mozart, Wagner, Sondheim a Rogers a Hammerstein.
Hyd yma, mae Bryn Terfel wedi ennill dwy wobr Grammy a phedair gwobr Brit Clasurol.
Mae e wedi perfformio yn rhai o leoliadau enwocaf y byd clasurol, gan gynnwys Central Park yn Efrog Newydd.
Cynhaliodd Ŵyl y Faenol am naw mlynedd.
Mae’n fwyaf enwog am bortreadu cymeriadau Figaro a Falstaff mewn operâu.