Paul Flowers
Mae cyn-bennaeth banc Co-op Paul Flowers wedi cael ei gyhuddo o droseddau’n ymwneud a chyffuriau, gan gynnwys cocen, meddai Heddlu Gorllewin Swydd Efrog heddiw.

Mae Flowers wedi’i gyhuddo o ddau achos o fod a chyffur dosbarth A yn ei feddiant ac un cyhuddiad o fod a chyffur dosbarth C yn ei feddiant.

Cafodd Paul Flowers, 63 oed o Bradford, ei arestio yn Lerpwl y llynedd.

Roedd y gweinidog Methodistaidd wedi ymddiswyddo fel cadeirydd y banc ym mis Mehefin y llynedd yn dilyn honiadau ei fod yn defnyddio cyffuriau a’i fod wedi gwneud ceisiadau amhriodol  am dreuliau.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth a bydd yn mynd gerbron ynadon Leeds ar 7 Mai.