Edwina Hart
Mae rhan o’r A477 rhwng ardaloedd Sanclêr a Rhos-goch yn agor heddiw, ar ôl gweld budd o gynllun gwerth £68 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r cynllun hefyd wedi creu ffyrdd osgoi ar gyfer Llanddowror a Rhos-goch yn ogystal â darparu llwybrau cerdded a beicio newydd yn yr ardal.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y ffordd newydd yn gwella diogelwch ac amseroedd teithio ar hyd y ffordd brysur sy’n cysylltu Gorllewin Cymru â gweddill Ewrop.

Mae’r ffordd yn brif fynediad i gyrchfannau twristaidd de Penfro, gan gynnwys Dinbych y Pysgod a Saundersfoot, yn ogystal â thraffig o Ddoc Penfro.

‘Am wella’r economi’

Wrth agor y briffordd newydd, dywedodd Gweinidog yr Economi Edwina Hart:

“Bydd y rhan hon o’r A477 sydd wedi’i gwella yn cynnig cysylltiadau ffyrdd mwy effeithiol i’r mentrau twristiaeth ac ynni pwysig yn Sir Benfro, gan sicrhau cysylltiadau mwy effeithiol gydag Iwerddon drwy Ddoc Penfro.

“Mae’n hollbwysig ein bod yn gwella ein seilwaith trafnidiaeth os ydym i sicrhau bod  Cymru yn fwy cystadleuol yn economaidd.

“Rwy’n llongyfarch pawb sy’n rhan o’r broses o gyflawni’r prosiect gwella hwn, fydd, rwy’n siŵr yn cael ei werthfawrogi am flynyddoedd lawer.”

Mae’r rhan newydd yn cynnwys 8.7km o ffordd newydd rhwng Pont Newydd, i’r gorllewin o Landdowror, a Rhos-goch, ac 0.9km o welliannau rhwng Pont Newydd a chylchfan Sanclêr.