Cefnogwyr Lerpwl yn darllen teyrngedau yn y gwasanaeth coffa
Mae 24,000 o bobol wedi dod ynghyd ar gyfer gwasanaeth coffa yn Lerpwl prynhawn ma, er mwyn nodi 25 mlynedd ers trychineb Hillsborough.
Mae cyfeillion a pherthnasau’r 96 o bobol a gollodd eu bywydau wedi dod at ei gilydd yn stadiwm Anfield, ynghyd a chwaraewyr, staff a chynrychiolwyr y clwb.
Wrth i’r perthnasau gyrraedd y stadiwm, fe gododd y dorf ar eu traed a’u cymeradwyo.
Ynghanol y cae, roedd miloedd o sgarffiau wedi eu gosod i greu rhif 96 ac fe gafodd clychau’r eglwys eu canu 96 o weithiau am 3.06 y pnawn, sef yr union amser y digwyddodd y drasiedi.
Cafodd y cefnogwyr eu lladd yn ystod gêm gwpan yr FA yn erbyn Nottingham Forest yn Sheffield ar Ebrill 15, 1989 – y trychineb chwaraeon gwaethaf yn hanes Prydain.
Mae cwest o’r newydd i ddarganfod yr hyn ddigwyddodd eisoes wedi dechrau yn llys y crwner yn Warrington ond fel arwydd o barch fe fydd y cwestau newydd sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd yn cael eu gohirio.