Ched Evans
Mae rheolwr a chadeirydd Sheffield United wedi gofyn i Ched Evans ailymuno â’r clwb pan fydd yn cael ei ryddhau o’r carchar yn nes ymlaen eleni, yn ôl adroddiadau.
Mae’r clwb eisoes wedi bod mewn trafodaethau ag asiant y chwaraewr a’r Gymdeithas Pêl-droedwyr Proffesiynol ynglŷn â dyfodol Evans ar y cae ac wedi ymweld ag ef droeon yng ngharchar HMP Wymott ger Leyland, yn ôl y Birmingham Mail.
Ar hyn o bryd mae disgwyl i Evans gael ei ryddhau o’r carchar ym mis Hydref – ac mae wrthi’n ystyried apêl drwy’r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol i’w achos.
Cafodd Evans, sy’n 25 oed, ei ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar am dreisio merch 19 oed mewn gwesty yn Rhyl yn 2012.
Mae wedi parhau i fynnu ei fod yn ddieuog, gan gyfaddef cael rhyw gyda’r ddynes ond gwadu ei bod wedi ei threisio.
Cafwyd ffrind Ched Evans, y pêl-droediwr Clayton McDonald, yn ddieuog o’r cyhuddiad o drais yn ei erbyn ef.
Sêl bendith y clwb
Dywedodd y papur newydd eu bod nhw wedi siarad â rhywun o fewn y clwb oedd wedi cadarnhau fod Clough y rheolwr a McCabe y cadeirydd wedi cynnig i Ched Evans y gallai ddychwelyd i Sheffield United.
Mae perchennog y clwb, y Tywysog Abdullah bin Mossad bin Abdulaziz Al Saud o Saudi Arabia, hefyd wedi rhoi sêl bendith i’r clwb ailarwyddo’r ymosodwr.
Yn ei dymor olaf cyn cael ei garcharu fe sgoriodd Evans 35 gôl i Sheffield United a chael ei enwi yn Nhîm y Flwyddyn Chynghrair Un.
Dechreuodd ei yrfa ym Man City cyn symud i Sheffield United am £3m yn 2009.
Mae ganddo hefyd 13 cap dros Gymru, gan sgorio yn erbyn Gwlad yr Ia yn 2008 yn ei gêm gyntaf dros ei wlad – ond does dim awgrym eto a fydd Evans yn cael ei ystyried ar gyfer pêl-droed rhyngwladol eto unwaith y caiff ei ryddhau o’r carchar.