Garry Monk
Bu chwaraewyr Abertawe’n ymladd ar y cae yn ystod sesiwn ymarfer cyn eu gêm yn erbyn Chelsea ar y penwythnos, yn ôl adroddiadau heddiw.

Honnodd y Daily Mail fod hyd at chwech o chwaraewyr y tîm cyntaf wedi bod yn rhan o’r anghydfod – a bod y cadeirydd Huw Jenkins yno’n dyst i’r digwyddiadau.

Mae’r clwb wedi cadarnhau bod gwrthdaro wedi digwydd, ond wedi gwadu honiad y Daily Mail fod chwaraewyr wedi bod yn ymladd â’i gilydd.

Yn ôl yr adroddiadau cafodd sesiwn lawn ei drefnu’r wythnos diwethaf gan y rheolwr Garry Monk fel rhan o’r paratoadau ar gyfer ymweliad Chelsea – gêm a gollodd yr Elyrch 1-0 ar ôl i Chico Flores dderbyn cerdyn coch.

Ond yn ystod y sesiwn fe ddechreuodd y chwaraewyr ffraeo, gyda thaclau gwael gan rai’n arwain at ymladd ymysg rhai ohonynt.

Mae’r berthynas rhwng chwaraewyr Abertawe eisoes wedi bod o dan y chwyddwydr eleni ar ôl ffrae ar y cae ymarfer rhwng Monk a Flores ym mis Ionawr, pan oedd Michael Laudrup dal wrth y llyw.

Mae’r tîm hefyd yn dioddef ar y cae ar ôl tymor hir oedd yn cynnwys ymgyrch yng Nghwpan Ewropa, gydag Abertawe ar hyn o bryd dim ond pedwar pwynt uwchben safleoedd y cwymp yn yr Uwch Gynghrair.

“Dim angen poeni”

Fe gadarnhaodd llefarydd ar ran Abertawe fod gwrthdaro wedi bod rhwng ambell i chwaraewr ar y cae ymarfer, ond eu bod eisoes wedi delio â nhw.

“Oedd, roedd ambell i ddigwyddiad rhwng chwaraewyr penodol, ac er bod y clwb yn deall dydyn ni ddim yn cymeradwyo hynny,” meddai’r llefarydd wrth BBC Sport.

“Fe ddeliwyd â hyn yn gyflym ac mae pawb wedi symud ymlaen.

“Mae pethau fel hyn yn aml yn digwydd ar feysydd ymarfer ar hyd a lled y wlad, felly er gwaethaf yr adroddiadau yn y wasg, ni ddylai cefnogwyr Abertawe boeni.

“Roedd y tîm newydd ddychwelyd i ymarfer ar ôl colled siomedig yn Hull ac fe ddangoswyd eu rhwystredigaeth yn ystod gêm ymarfer 11 v 11 rhwng y grŵp.

“Roedd yn sicr yn edrych fel tîm oedd yn ymladd dros ei gilydd yn hytrach nag yn erbyn ei gilydd – fel sydd yn cael ei awgrymu gan rai.”