Andy Coulson
Mae cyn-ddirprwy olygydd News of the World, Andy Coulson, wedi gwadu gwybod unrhyw beth am hacio ffôn y ferch ysgol Milly Dowler, a gafodd ei llofruddio, pan oedd o’n gyfrifol am y papur.

Dywedodd Coulson nad oedd o’n ymwybodol fod y weithred yn anghyfreithlon ac y byddai wedi ei ystyried  yn “newyddiaduraeth ddiog”.

Roedd Andy Coulson, 46, yn gyfrifol am y papur dydd Sul ym mis Ebrill 2002, pan oedd Rebekah Brooks ar ei gwyliau yn Dubai.

Wrth roi tystiolaeth yn yr Old Bailey, dywedodd Coulson nad oedd o’n llawn ymwybodol o sut i hacio negeseuon ffôn ar yr adeg pan wrandawyd ar negeseuon Milly Dowler.

“Dw i’n meddwl ei fod yn rhywbeth oeddwn i’n lled ymwybodol ohono. Roedd o’n rhywbeth oedd yn cael ei drafod mewn sïon falle,” meddai.

Cyhuddiadau

Mae Coulson, 46, o Charing, Caint; Rebekah Brooks, 45, o Churchill, Sir Rhydychen, a chyn-olygydd reolwr The News of the World Stuart Kuttner, 73, o Woodford Green, Essex, yn gwadu cynllwynio i hacio ffonau rhwng 2000 a 2006.

Maen nhw’n mynnu nad oedden nhw’n  ymwybodol bod newyddiadurwyr wedi clustfeinio ar negeseuon ffôn.

Mae’r achos yn parhau.