Mae diffoddwyr tân wedi’u galw i ganolfan ailgylchu ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam y prynhawn ma.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw yno oddeutu hanner dydd heddiw ac mae chwech o griwiau tân yno ar hyn o bryd.

Mae’r  tân wedi’i gyfyngu i un safle y tu mewn i’r adeilad.

Mae’r gweithwyr wedi gadael yr adeilad ac nid oes unrhyw adroddiadau bod unrhyw un wedi cael eu hanafu.