Shrien Dewani gyda'i wraig Anni
Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio ei wraig ar eu mis mel yn Ne Affrica wedi cael ei anfon i ysbyty seiciatryddol tan fis nesaf yn dilyn ymddangos byr yn y llys heddiw.

Cafodd  Shrien Dewani, 34 oed, ei estraddodi o’r DU neithiwr a chafodd ei gludo i’r llys yn Cape Town bore ma ar gyfer gwrandawiad byr.

Bu farw ei wraig Anni Dewani, 28, ar ôl iddi gael ei saethu yn ei gwddf wrth i’r cwpl deithio mewn tacsi ar gyrrion Cape Town ym mis Tachwedd 2010.

Mae’r gŵr busnes Dewani, sy’n filiwnydd, wedi’i gyhuddo o dalu tri dyn i ladd ei wraig yn ystod eu mis mel. Mae’n gwadu’r cyhuddiad.

Bydd Dewani yn cael ei gadw yn ysbyty seiciatryddol Valkenburg nes ei ymddangosiad nesaf ar 12 Mai.

Mae llywodraeth De Affrica wedi dod i gytundeb gyda’r DU y bydd Dewani yn cael dychwelyd i Brydain os nad yw’r achos wedi dechrau o fewn 18 mis.

Roedd Dewani wedi apelio yn erbyn cael ei estraddodi o’r DU oherwydd ei iechyd meddwl.