Jimmy Savile
Mae Heddlu Gogledd Swydd Efrog wedi gofyn i Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (yr IPCC) i edrych i mewn i’r modd y delion nhw gyda’r honiadau o gam-drin plant yn erbyn y diweddar gyflwynydd teledu, Jimmy Savile.

Fe wnaethon nhw hynny ddoe, yn dilyn ymchwiliad mewnol.

Yn benodol, mae’r llu yn gofyn i’r Comisiwn:

* edrych ar y modd y cafodd yr honiad cynta’, bron i ddegawd yn ol, ei drin;

* mae’r llu hefyd yn gofyn i’r Comisiwn edrych ar y modd y deliwyd gyda honiadau yn erbyn cyfaill i Jimmy Savile, Peter Jaconelli o Scarborough, a fu farw yn 1999;

* yn drydydd, mae’r cais gan Heddlu Gogledd Swydd Efrog yn gofyn i’r Comisiwn farnu ynglyn a sut y cafodd unrhyw wybodaeth ar ffeil am Jimmy Savile ei defnyddio a’i datgelu.

Meddai Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Swydd Efrog, Dave Jones: “Mae yna, yn hollol ddealladwy, lot fawr o ddiddordeb yn y ffordd y gwnaeth lluoedd ar draws gwledydd Prydain ymateb i honiadau o gam-drin yn erbyn Savile a phobol eraill.

“Er mwyn penderfynu a wnaeth ein llu ni ymateb yn y modd addas i unrhyw wybodaeth dderbynion ni, fe fu adolygiad i’n holl sustemau ni. O ganlyniad i’r adolygiad hwnnw, rydw i wedi trosglwyddo’r mater i’r IPCC i’w ystyried.

“Mae’n hollbwysig fod gan y cyhoedd, yn enwedig dioddefwyr, bob hyder yn yr heddlu.”