Cofeb Hillsborough
Mae’r crwner yng nghwest y 96 o gefnogwyr tîm pêl-droed Lerpwl fu farw yn stadiwm Hillsborough yn Sheffield yn 1989 wedi dweud na ddylid rhoi’r bai ar y cefnogwyr eu hunain am y trychineb.

Mae’r teuluoedd wedi croesawu’r datganiad gan yr Arglwydd Ustus Goldring yn y llys yn Warrington y bore ma.

Yn ystod y gwrandawiad y bore ma, amlinellodd y crwner y cwestiynau allweddol y bydd rhaid i’r rheithgor gael ateb iddyn nhw yn ystod y cwest.

Mae’r cwestiynau allweddol, meddai, yn canolbwyntio’n rhannol ar ymddygiad y cefnogwyr.

Cafodd cannoedd o gefnogwyr eu cywasgu yn ystod gornest yng Nghwpan yr FA rhwng Lerpwl a Nottingham Forest ar Ebrill 15, 1989.

Y tu allan i’r llys y bore ma, croesawodd cadeirydd Grŵp Cefnogi Teuluoedd Hillsborough, Margaret Aspinall y cyhoeddiad.

‘Gwych’

“Mae’n hollol wych. Rydyn ni’n gwybod hynny ers 25 o flynyddoedd.

“Rydyn ni wedi cael tipyn o faw wedi’i luchio aton ni ers 25 o flynyddoedd.

“Mae’n braf clywed y crwner yn dweud hyn. Roedd clywed hyn yn swyddogol gan yr Arglwydd Ustus Goldring yn fendigedig.”

‘Addasu cofnodion’

Clywodd y llys fod cofnodion yr heddlu wedi cael eu haddasu er mwyn celu eu rhan nhw yn y trychineb ac er mwyn awgrymu mai’r cefnogwyr oedd ar fai.

Roedd gofyn i’r plismyn roi datganiadau’n egluro’r hyn oedd wedi digwydd cyn i’r cefnogwyr farw, ac fe gafodd eu datganiadau eu haddasu’n ddiweddarach gan uwch swyddogion Heddlu De Swydd Efrog a chyfreithwyr cyn i Heddlu West Midlands ddechrau’r ymchwiliad.

Eglurodd y crwner fod yr iaith yn rhai o’r cofnodion wedi cael ei haddasu, ac fe gafodd rhai o’r ffeithiau eu newid a rhegfeydd eu dileu.

Yn ogystal, meddai, cafodd nifer o sylwadau oedd yn beirniadu’r heddlu eu dileu, yn ogystal â sylwadau sarhaus y plismyn am y cefnogwyr.

Tynnodd y crwner sylw hefyd at benderfyniad y cwest gwreiddiol i beidio ystyried tystiolaeth oedd yn awgrymu bod rhai o’r 96 yn dal yn fyw wedi 3.15yh.

Dywedodd wrth y rheithgor na ddylen nhw ystyried darganfyddiadau’r panel annibynnol fel tystiolaeth gadarn o’r hyn ddigwyddodd.

Cafodd canlyniadau’r cwest gwreiddiol eu diddymu yn 2012 ar sail tystiolaeth y panel annibynnol.

Mae dau ymchwiliad ar y gweill, y naill gan yr heddlu a’r llall gan Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu.

Fory, fe fydd y rheithgor yn clywed ffeithiau bywgraffyddol am y 96 o gefnogwyr fu farw.