Fe allai’r Llywodraeth fod wedi rhoi gwell gwerth am arian i drethdalwyr wrth werthu’r Post Brenhinol, yn ôl adroddiad newydd.
Fe ddatgelodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol (NAO) bod y rhan fwyaf o fuddsoddwyr a gafodd flaenoriaeth i brynu cyfrannau wedi eu gwerthu’n fuan wedyn ar ôl gwneud elw.
Yn ôl y rhai sydd wedi bod yn feirniadol o’r preifateiddio, mae adroddiad yr NAO yn dangos bod y Llywodraeth wedi gwerthu’r Post Brenhinol am bris rhy rad.
Ond dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes Vince Cable bod y Llywodraeth wedi cyflawni’r hyn yr oedden nhw’n bwriadu ei wneud – sicrhau dyfodol y gwasanaeth trwy werthiant llwyddiannus.
Pan ddaeth y diwrnod cyntaf o fasnachu i ben y llynedd, roedd cyfrannau’r Post Brenhinol yn 455c – 38% yn uwch na’r pris gwerthu. Roedd hynny’n golygu cynnydd mewn gwerth o £750 miliwn i’r cyfranddalwyr newydd.
Dywed yr adroddiad y gallai’r Llywodraeth fod wedi cadw 110 miliwn o’r cyfrannau, oedd werth £363 miliwn, tra’n parhau i breifateiddio’r busnes.
Mae’r adroddiad gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol hefyd yn datgelu bod chwe buddsoddwr a gafodd flaenoriaeth wedi gwerthu eu holl gyfrannau o fewn wythnosau tra bod chwech arall wedi gwerthu rhan o’u cyfrannau. Roedd pedwar arall wedi prynu mwy o gyfrannau.
Roedd y rhai wnaeth werthu eu cyfrannau wedi gwneud elw “sylweddol “ yn ôl yr adroddiad.
‘Rhoi elw cyn pobl’
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros yr Economi, Rhun ap Iorwerth: “Bu Plaid Cymru yn brwydro i atal Llywodraeth y DG rhag preifateiddio’r gwasanaeth, ac yr oeddem yn siomedig ofnadwy pan gafodd ei werthu am golled sylweddol i’r trethdalwr.
“Fe wnaethom rybuddio y byddai preifateiddio yn golygu rhoi elw cyn pobl, a dyna pam y cynigiodd Plaid Cymru fodel arall lle byddai modd cadw’r gwasanaeth mewn dwylo cyhoeddus. Rhaid rhoi blaenoriaeth yn awr i ofalu bod y gwasanaeth cyffredinol i bawb yn cael ei warchod, ac nad yw cyfran y cyhoedd yn y gwasanaeth post yn cael ei lastwreiddio ymhellach o gwbl.
“Bydd defnyddwyr y gwasanaeth yn poeni’n arw y bydd y colledion presennol yn arwain at golli swyddi a gostyngiad mewn gwasanaethau – yn enwedig yng nghefn gwlad sydd mewn perygl o golli gwasanaethau.”