Iolo Williams
Flwyddyn union ers sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru, mae’r cyflwynydd a naturiaethwr,  Iolo Williams wedi beirniadu’r corff gan ddweud ei fod wedi “methu a chyflawni ei ddyletswyddau”.

Dywedodd Iolo Williams bod gan y sefydliad berthynas llawer rhy agos a gwleidyddion a’i fod  “o dan adain Llywodraeth Cymru.”

Ychwanegodd bod nifer o gadwraethwyr yn “anhapus ofnadwy” efo’r corff gan eu cyhuddo o ganolbwyntio mwy ar wneud arian o adnoddau naturiol y wlad yn hytrach na materion amgylcheddol.

Roedd Iolo Williams yn siarad ar y Post Cyntaf y bore ma pan ddywedodd bod “achosion di-ri o lygredd yn ein hafonydd a neb wedi edrych mewn iddo fo” a bod “achosion o rwygo perthi i fyny a neb yn gwneud dim.”

Mae’n dweud hefyd bod gormod o gynlluniau datblygu yn cael eu cymeradwyo a bod gormod o enghreifftiau o’r corff yn newid ei meddyliau fel yn achos y trac rasio ceir ger Glyn Ebwy.

‘Cwbl ddi-sail’

Mae blwyddyn ers i dri sefydliad gael eu cyfuno i ffurfio Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n cyflogi tua 2,000 o staff.

Roedd Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn arfer edrych ar ôl materion cadwraeth, y Comisiwn Coedwigaeth yn gyfrifol am blannu coed a gwerthu pren ac roedd Asiantaeth yr Amgylchedd yn canolbwyntio ar lifogydd a llygredd.

Dywedodd gweinidog Llywodraeth Cymru gyda chyfrifoldeb dros Gyfoeth Naturiol a Bwyd, Alun Davies ar raglen Dylan Jones ar Radio Cymru’r bore ma ei fod yn credu bod y stori’n swnio fel  “stori ffug a bod yn onest” ac roedd yn meddwl bod honiadau Iolo Williams yn “gwbl ddi-sail.”

Meddai prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru Emyr Roberts ar raglen Dylan Jones bod gwaith cadwraeth y corff yn mynd yn ei flaen a does dim lleihad wedi bod yn  y gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ychwanegodd ei fod yn credu bod y sefydliad yn gryfach rŵan gyda thri chorff wedi dod ynghyd.