Mae’r NSPCC wedi rhybuddio bod asiantaethau diogelu plant mor brin o arian fel eu bod nhw bellach yn gweithredu fel gwasanaethau brys yn unig.
Dywed yr elusen blant yn ei hadroddiad blynyddol bod cynnydd aruthrol yn yr adroddiadau o gam-drin yn sgil helynt Savile yn ogystal â’r hinsawdd economaidd heriol yn golygu bod gwasanaethau cymdeithasol i blant yn gallu canolbwyntio ar yr achosion gwaethaf yn unig.
Er mwyn mynd i’r afael a’r broblem, mae’n galw am bobl sy’n gweithio yn y maes ac sy’n dod i gysylltiad â phlant i gymryd cyfrifoldeb am geisio adnabod ac atal achosion o gam-drin ac esgeulustod.