Mae prosiect ynni gwynt y môr yng ngogledd Cymru wedi cael hwb heddiw ar ôl i’r Banc Buddsoddi Gwyrdd gyhoeddi ei fod yn prynu cyfran o 10% yn y prosiect.

Gwynt y Môr, sy’n berchen i RWE Innogy, yw’r fferm wynt forol fwyaf o’i math sy’n cael ei hadeiladu yn Ewrop ac unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau eleni bydd yn cynhyrchu digon o drydan i gyflenwi 400,000 o gartrefi.

Mae’r Banc Buddsoddi Gwyrdd hefyd wedi cyhoeddi ei fod yn prynu cyfran o 50% yn y fferm wynt Westermost Rough oddi ar arfordir Dwyrain Sir Efrog gan fuddsoddi mwy na £460 miliwn yn y ddau brosiect.

Dywedodd Shaun Kingsbury, prif weithredwr y Banc Buddsoddi Gwyrdd bod gan y DU “gynlluniau uchelgeisiol” i arwain y ffordd mewn ynni gwynt morol.

Fe fydd y buddsoddiad, meddai, yn helpu datblygwyr i gynllunio ar gyfer prosiectau newydd mewn ynni adnewyddadwy.

Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu gan yr Ysgrifennydd Busnes Vince Cable a ddywedodd bod y Banc Buddsoddi Gwyrdd yn chwarae rôl bwysig i helpu’r DU tuag at economi werdd.

“Mae gan y diwydiant y potensial i greu miloedd o swyddi newydd a biliynau o fuddsoddiad mewn busnesau,” ychwanegodd.