Hofrennydd tebyg o'r math oedd yn y ddamwain (Gary Watt GNU 1.2)
Mae teuluoedd 16 o bobol fu farw wedi i hofrennydd blymio i Fôr y Gogledd wedi galw am erlyn y cwmni oedd yn gyfrifol amdano – Bond Offshore Helicopters.

Daeth archwiliad i’r casgliad y byddai’r ddamwain wedi ei hosgoi pe bai’r cwmni wedi dilyn cyfarwyddiadau diogelwch yn gywir.

Plymiodd yr hofrennydd Eurocopter i’r dŵr ger glannau Sir Aberdeen ar Ebrill 1, 2009.

‘Siomi’

Mae Swyddfa’r Goron eisoes wedi dweud na fydd yn erlyn y cwmni, ond mae’r teuluoedd yn gwrthwynebu’r penderfyniad.

Penderfynodd y Prif Siryf Derek Pyle fod “posibilrwydd” mai gwallau oedd yn gyfrifol am y ddamwain.

Dywedodd mam Stuart Wood, un o’r rhai fu farw, fod y teuluoedd “wedi’u siomi” gan y system, a’u bod nhw’n “chwilio am atebion”.

Dywedodd cyfreithiwr ar ran y teuluoedd ei bod yn “warthus” fod cynifer o bobol wedi marw “heb fod unrhyw un wedi’i erlyn eto”.

Mae undebau llafur hefyd yn galw am ymchwiliad cyhoeddus llawn i ddiogelwch oddi ar arfordir Môr y Gogledd.